Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (243)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) |
3 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Difrifol (Memorandwm Rhif 2) (30 munud) NDM5673 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd personol neu deuluol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir gweld copi o'r Bil yn:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
Dogfennau Ategol |
4 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud) |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r cytundeb diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4.
2. Yn credu bod angen prosiect trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er budd modurwyr a busnesau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y cyd i gynnal Astudiaeth fanwl o'r Effaith Amgylcheddol ar lwybr dewisol Llywodraeth Cymru, ac na fydd gwaith adeiladu'n dechrau ar ffordd liniaru'r M4 cyn etholiad nesaf y Cynulliad.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn a chyfartal i'r llwybr glas wrth iddi barhau i ddatblygu ei chynigion ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ffordd ddosbarthu ddeheuol yr A48 a ffordd fynediad gwaith dur yr A4810 ger gwaith dur Llanwern yng Nghasnewydd, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith cludo nwyddau ar drenau a gwella llwybrau strategol lleol.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn arwain at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y wlad, nid dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd. |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at:
a) economi Cymru yn colli dros £1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;
b) cynnydd yn nibyniaeth pobl ar fanciau bwyd;
c) toriadau i wariant llywodraeth leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl;
d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a
e) parhad mewn anghydbwysedd economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.
2. Yn galw am:
a) rhoi terfyn ar economeg o lymder;
b) ail-gydbwyso grym a chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;
c) mabwysiadu polisïau economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;
d) cynyddu'r isafswm cyflog i gyflog byw;
e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r wladwriaeth les;
f) cydraddoldeb ariannol rhwng Cymru a'r Alban; a
g) datganoli ysgogiadau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am reolaeth economaidd ddarbodus gan lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl Cymru a'r DU.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi yr etifeddodd Llywodraeth Glymblaid y DU y diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o heddwch.
2. Yn croesawu, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth Glymblaid y DU:
a) bod y diffyg yn y gyllideb wedi cael ei haneru;
b) bod buddsoddiad net y sector cyhoeddus yn uwch fel cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010;
c) bod 1.8 miliwn o swyddi wedi cael eu creu;
d) bod treth incwm wedi cael ei thorri £800 ar gyfer 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a chanolig drwy godi trothwy’r dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl;
e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd cyntaf yn y byd wedi cael ei sefydlu.
f) bod cyflogwyr yn cael £2,000 o arian yn ôl ar y dreth y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr.
g) y dilëwyd cynlluniau i dalu llai i weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
h) bod y gyfradd gyflogaeth ar y lefel uchaf erioed o £30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
i) bod tâl rheolaidd wedi cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n cynrychioli cynnydd uwch na chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
3. Yn credu:
a) na all rhaglen flaengar gael ei darparu gan Lywodraeth sy'n fethdalwr;
b) na fyddai mynnu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru annibynnol; ac
c) y dylem gydbwyso'r gyllideb erbyn 2018, torri trethi ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb.
4. Yn galw am:
a) lleihad teg yn y diffyg ariannol drwy sicrhau bod pobl sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf yn talu eu rhan, gan gynnwys drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio;
b) rheolau ariannol newydd i gydbwyso'r gyllideb wrth ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol;
c) toriad pellach o £400 yn y dreth incwm ar gyfer pobl sydd ar gyflog isel a chanolig;
d) gweithredu cynigion Silk Rhan 1 ar bwerau ariannol i Gymru yn llawn; a
d) cyllid teg i Gymru, drwy gynyddu grant bloc Cymru i lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r anghydbwysedd drwy sefydlu llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i Gymru gael ei hariannu'n deg.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau i wariant llywodraeth leol' a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn gan Lywodraeth y DU i Grant Bloc Llywodraeth Cymru';
Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei le:
setliad ariannol teg ar frys i Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill y DU; |
7 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cael mynediad at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector preifat.
2. Yn nodi bod gwella sgiliau poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol i economi Cymru.
3. Yn nodi bod ein natur wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu ein heconomi a gwella cysylltedd.
4. Yn credu bod yna lawer o gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a chapasiti hyfforddi.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:
a) creu banc datblygu yng Nghymru;
b) datblygu rhwydweithiau o ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;
c) ymgorffori sgiliau ehangach megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;
d) datganoli mwy o bwerau dros ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;
e) gwella ein seilwaith trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd, datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith presennol; ac
f) lansio adolygiad radical a systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ail rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod sector preifat llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Yn is-bwynt 5(e), mewnosoder ar ôl 'Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd':
'a Llinell y Gororau'.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 5e) dileu 'datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas' a rhoi yn ei le 'datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig'.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach i roi rhyddhad o 100% i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai a rhyddhad sy'n lleihau'n raddol ar gyfer y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,001 a £15,000.
Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
sefydlu corff newydd i weithio ochr yn ochr â UKTI i adeiladu perthynas fasnachu rhwng busnesau Cymru a'r gymuned ryngwladol. |
8 Cyfnod Pleidleisio |
9 Dadl Fer (30 munud) NDM5679 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cefnogi sefydlu Rhwydwaith Cydgynhyrchu i Gymru
Adeiladu ar ein traddodiadau gorau o gydweithredu a chymuned, i drawsnewid Cymru yn gymdeithas sy'n rhoi egwyddorion cydgynhyrchu yn ganolog i'w gwasanaethau cyhoeddus, ei chymunedau a bywydau ei dinasyddion. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2015